Mae’r ap realiti estynedig Tro nawr ar gael
Mae Galactig wedi bod yn gweithio gyda Mynyddoedd Pawb ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ers peth amser i greu canllaw llwybr cerdded cyffrous ar ffurf realiti estynedig.
Mae Tro yn eich galluogi i archwilio llwybrau mewn realiti estynedig a thrwy hynny dod i wybod mwy am gyfoeth hanes Cymru o’ch cwmpas, i gyd trwy ddefnyddio camera eich ffôn.
Lansiwyd ap Tro gyda un llwybr, sef y rhan o Glawdd Offa ym Mryniau Clwyd, a bydd mwy o lwybrau yn cael eu hychwanegu yn y dyfodol.