Cawsom amser gwych yn lawnsio Bys a Bawd gyda Cered ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd.
Daeth y canwr gwerin Gwilym Bowen Rhys – a recordiodd y caneuon ar gyfer y rap – draw gyda’i gitâr i ddiddanu pawb, roedd y plant wrth eu boddau!
Roedd hi hefyd yn hyfryd gweld Faleri Jenkins, a gynhyrchodd y deunydd yn y llyfrau gwreiddiol o Bys a Bawd i Mudiad Meithrin.