Skip to main content

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Galactig yn lansio ap diogelwch fferm dwyieithog, arloesol newydd sy’n harnesu pŵer VR a realiti estynedig i adnabod peryglon posib ac i leihau y risgiau sy’n gysylltiedig â ffermio.

Crewyd yr ap rhyngweithiol, ‘Fferm Ddiogel’ i addysgu ffermwyr y dyfodol ar sut i leihau damweiniau ac i wella diogelwch ar y fferm. Mae’n cludo defnyddwyr i amgylcheddau fferm realistig ar gyfer dysgu a hyfforddiant.

Wedi ei ddylunio i gefnogi darlithwyr ac aseswyr i addysgu mewn modd ymarferol , mae’r ap yn defnyddio senarios deinamig sy’n amlygu peryglon a sut i liniaru risg pan yn gweithio gydag anifeiliad, yn gyrru cerbydau, ac yn cyflawni tasgau ar y fferm.

Nododd ymchwil o’r sector gan y Coleg, yr angen am ap dwyieithog, hygyrch i addysgu dysgwyr, prentisiaid a sefydliadau am Iechyd a Diogelwch ar y fferm, fel rhan hanfodol o gymwysterau amaeth ac astudiaethau ar y tir o Lefelau 1 i 4.

Dywedodd Lisa O’Connor, Rheolwr Academaidd Addysg Bellach yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Rydym yn hynod falch o fod yn lansio’r adnodd arloesol hwn fydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch fferm. Mae addysg yn allweddol i newid, ac mae cael adnoddau digidol Cymraeg a dwyieithog yn y sector yn hollbwysig i baratoi dysgwyr at y byd gwaith. Edrychwn ymlaen i lansio’r adnodd ac i’w rannu gyda cholegau sy’n darparu cyrsiau amaethyddiaeth a rheoli anifeiliaid ledled Cymru.”

Mae’r adnodd newydd yma yn arloesol ac rwy’n ei groesawu’n fawr,” meddai. “Rydym yn clywed yn rhy aml am ddamweiniau yn digwydd ar y fferm ac mae’n rhaid i hyn newid, drwy addysg, er mwyn sicrhau diogelwch ein ffermwyr.

Mae’r dechnoleg ddiweddaraf VR yn arbennig, a theimlaf ei fod yn ffordd effeithiol iawn i addysgu’r genhedlaeth newydd o ffermwyr i adnabod peryglon posib ar y fferm a sut i’w hosgoi.

Rhys Lewisgyn-gyflwynydd ar y raglen Cefn Gwlad