asiant creadigol unigryw

Chwilio
ency

Adolygu-Revision

Adolygu TGAU Gwyddoniaeth

Cwestiynau Ffiseg, Cemeg a Bioleg mewn Cymraeg a Saesneg
Cwis wedi’i amseru
Amrywiaeth o ddulliau cwestiynu
Delweddau i gefnogi cwestiynau
Tracio cynnydd
Mynediad at ganllawiau adolygu

Wedi’i selio ar Ganllawiau Adolygu TGAU Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor mae’r ap dwyieithog yma ar gael yn rhad ac am ddim ac mae’n cynnig deunydd i gynorthwyo myfyrwyr i baratoi ar gyfer arholiadau TGAU Gwyddoniaeth.  Yn yr ap mae yna 50 o gwestiynau amrywiol ar Gemeg, Ffiseg a Bioleg a chynigir awgrymiadau ar gyfer pa feysydd y dylid eu hastudio i wella gwybodaeth ac i sicrhau gwell sgôr.

Roedd Galactig yn gyfrifol am bob agwedd o adeiladu, cynllunio, brandio a chynnwys yr ap.  Mewn cyd-weithrediad ag arbenigwyr yn y tri phwnc fe addaswyd cynnwys llyfrynnau canllawiau adolygu Prifysgol Bangor i mewn i cyfres o gwestiynau rhyngweithiol gyda darluniau a diagramau er mwyn sicrhau’r profiad gorau posibl i’r defnyddiwr.

Fel rhan o’r broses datblygu anfonwyd fersiynau newydd o’r ap symudol at y rhanddeiliaid yn rheolaidd drwy Testflight er mwyn cael eu hadborth.  Lansiwyd beta cyhoeddus fel arbrawf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli cyn ei lansio’n swyddogol yn ei gyfanrwydd flwyddyn yn ddiweddarach.