Beth yw eich Stori?
Defnyddio technoleg fel catalydd ar gyfer perchnogi ac ymgysylltu â’n treftadaeth ddiwylliannol
Prosiect a gyd-ariennir gan yr Amgueddfa Hapus, Sian Hutchinson a Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru yw ‘Beth yw eich Stori?’. Mae’r prosiect yn cynnwys ap i hybu ymgysylltiad, mwynhad a pherchnogaeth o wrthrychau treftadaeth ddiwylliannol yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd.
Mae cynyddu effaith ymwelwyr yn thema allweddol mewn astudiaethau amgueddfeydd, gyda chorff o syniadau yn datblygu ar ddulliau cynnil ac amlwg y gallai amgueddfeydd eu defnyddio i ‘hwyluso yn ogystal a rhannu ystyr’ (Petrov, 2012). Yn yr un modd, dwy agwedd allweddol ar wytnwch seicolegol yw ymdeimlad o greu gwerth a chael effaith yn y byd. Mae’r cyntaf yn hyrwyddo cymhelliant, hunan-barch ac ymgysylltiad pellach, a’r ail yn hybu hunangred a chysylltiad pellach rhwng yr unigolyn a’i gymuned. Mae technolegau newydd yn cynnig cyfleoedd deinamig i ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chynyddu effaith ymwelwyr, gan greu’r hyn y mae Nina Simon yn ei alw yn ‘amgueddfa gyfranogol’. Mewn amgueddfa gyfranogol, mae ymwelwyr yn ‘adeiladu eu hystyr eu hunain o brofiadau diwylliannol’ (Simon, 2010). Wrth i fwy o’n gweithgareddau symud ar-lein, bydd croesawu technoleg yn rhan allweddol o nod craidd yr Amgueddfa Hapus o ail-ddehongli amgueddfeydd ar gyfer byd sy’n brysur newid.
Bydd yr ap “Beth yw eich Stori” yn cael ei ddefnyddio i sganio côd QR sydd ynghlwm â gwrthrych yn yr amgueddfa. Bydd y defnyddiwr yn derbyn gwybodaeth ychwanegol am y gwrthrych gyda sain yn y Gymraeg a’r Saesneg ynghyd â chynnwys wedi’i greu gan ddefnyddwyr eraill.
Bydd gan bob gwrthrych rhyngwyneb ychwanegol sy’n galluogi ymwelwyr i recordio clipiau sain. Gall unrhyw un greu clip sain boed yn weithiwr amgueddfa proffesiynol neu’n ymwelydd achlysurol, a gellir recordio clipiau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Yn y tymor hir bydd modd ail-ddefnyddio’r clipiau sain mewn nifer o ffyrdd: eu hychwanegu at gasgliadau cyhoeddus, eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol neu eu gadw at ddefnydd personol yn y dyfodol.
Yn ei hanfod mae’r dechnoleg wedi’i ddylunio i hybu cysylltiad a pherchnogaeth o’n treftadaeth ddiwylliannol. Mae ymchwil yn awgrymu bod cyfran o’r boblogaeth, gan gynnwys grwpiau demograffig penodol, yn teimlo eu bod wedi colli cysylltiad â diwylliant y brif ffrwd (Coffee, 2008). Drwy alluogi unigolion i ‘roi eu marc’ ar arteffactau, bydd y prosiect nid yn unig yn hyrwyddo’r ymdeimlad o gymuned ac yn annog mynegiant creadigol personol, ond yn cynyddu cyfalaf cymdeithasol.