Hwyl Addysgol
Mae’r ap yn cyd-fynd â’r gyfres boblogaidd Archwilio’r Amgylchedd, gan Ganolfan Peniarth ac wedi ei seilio ar y pentref yn y gyfres honno. Er hyn, nid oes angen i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â’r gyfres i fwynhau’r ap. Yr her yw i’r plant ymweld ag adeiladau’r pentref gan gwblhau’r gweithgareddau yno’n llwyddiannus.