asiant creadigol unigryw

Chwilio
ency

Bys a Bawd

Ap realiti estynedig i blant

Gan ddefnyddio realiti estynedig, daw Bys a Bawd â hwiangerddi yn fyw o fewn ap i blant o bob oed. Cyd-ganwch gyda Bedo, y bardd glas, gan ddilyn ei symudiadau i’r caneuon yn eich ystafell fyw! Mae’r ap hefyd yn cynnwys animeiddiadau gwahanol i hwiangerddi eraill.

Casgliad o ganeuon sydd yn addas ar gyfer plant rhwng 0-7 mlwydd oed yw Bys a Bawd, gan gynnwys Troi ein Dwylo, Clap Clap ac Adeiladu Tŷ Bach.
Gyda’r caneuon yma, bydd plant a’u rhieni yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, corfforol a ieithyddol. Mae’r geiriau Cymraeg yn goleuo wrth iddynt gael eu canu, ac mae dewis ar gael i weld cyfieithiad Saesneg o’r geiriau I rieni di-Gymraeg.
Mae caneuon i blant, yn enwedig caneuon i blant sydd â gweithgareddau rhyngweithiol a symudiadau corfforol yn cyd-fynd â nhw, yn cynnig amrywiaeh eang o hwyl i blant, ac mae’n ffordd sbort i ddysgu geirfa, iaith, cysyniadau addysgiadol a datblygu sgiliau ysgogol.
Ap gan Cered (Menter Iaith Ceredigion) a Galactig. Y canwr yw Gwilym Bowen Rhys.
Mawr ddiolch i Mudiad Meithrin a Falyri Jenkins am eu haelioni o adael i ni ddefnyddio eu deunydd o Bys a Bawd, a gyhoeddwydd ym 1991.
Ariannwyd Bys a Bawd gan Gronfa Gymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.
00

LAWRLWYTHO

iOS