Crisis Checklist
Ap Hyfforddiant Meddygol
Mae 3C’s Crisis Checklist yn gymorth i hyfforddwyr ar wardiau meddygol a llawfeddygol. Ar hyn o bryd mae yna 12 rhestr wirio ar yr ap gan cynnwys Sepsis, Asthma, gwaedu Gastro-Intestinal a rhestr wirio ar gyfer trafnidiaeth ddiogel i gleifion.
Gwella ymateb i gleifion sy’n dirywio
Mae rhestrau gwirio meddygol yn ddatblygiad newydd a chyffrous ym maes meddygaeth. Maent yn galluogi llwybrau gofal cymhleth i weithredu’n hynod o effeithiol.
Meddyg sy’n gefnogol iawn i’r syniad o restrau gwirio ac sy’n ceisio eu cyflwyno mewn sefydliadau led led y byd wnaeth gysylltu efo Galactig.
Roedd o’n awyddus i ni greu ap fyddai’n cynnwys 12 rhestr wirio am ystod o faterion meddygol er mwyn galluogi’r defnyddwyr i wirio eu cynnydd wrth asesu cleifion. Darperir gwybodaeth ychwanegol (e.e. dôs cyffuriau) fel bo’r angen yn codi.
Cipio Data
Mae’r ap hefyd yn casglu data di-enw – lleoliad a defnydd – er mwyn darparu adborth gwerthfawr ar sut ac ymhle mae’r ap yn cael ei ddefnyddio.
Bydd yr wybodaeth yma yn galluogi’r grŵp 3C i benderfynu sut i ddatblygu’r ap ymhellach yn y dyfodol.
Beth yw 3C?
Grŵp o bobl sy’n teimlo’n gryf ynglŷn â diogelwch cleifion yw Crisis Checklist Collaborative (3C). Mae’r grŵp yn cynnwys nyrsys, meddygon, technegwyr, arbenigwyr diwydiannol ac arbenigwyr hedfan yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon, yr Almaen, Ffrainc, yr Unol Daleithau ac Awstralia.
