asiant creadigol unigryw

Chwilio
ency

Dementia Yn Fy Nwylo I

Profiad VR

Mae VR yn darparu profiad o sefyllfaoedd anghyfarwydd i’r defnyddiwyr. Mae Dementia Yn fy Nwylo i (First Hand) yn adnodd dwyieithog arloesol i addysgu pobl a chodi ymwybyddiaeth o ddementia.

00

Dementia Yn Fy Nwylo I
(First Hand)

Cyflwr cudd ar y cyfan yw Dementia sy’n effeithio nifer ohonom wrth i ni fynd yn hŷn, gyda teulu a ffrindiau’n cefnogi yn ddiamod.
Mae diffyg dealltwriaeth a darpariaeth yn y gymuned. Yn aml iawn credir pobl bod y gofal sydd ar gael wedi’i ddarparu i bobl sy’n hŷn ac yn fwy sâl na nhw.

Pwysigrwydd yr iaith Gymraeg

Gan amlaf mae’n well gan bobl siarad am bethau personol neu heriol yn eu hiaith gyntaf – ac efallai mai Cymraeg yw’r unig iaith sydd gan ryuwn. Er mwyn i’r iaith Gymraeg allu cynnal ei hygrydedd, mae’n rhaid iddo fod yn gyfredol.

00
00

Rydym wedi creu profiad gwbl ryngweithiol sy’n eich galluogi i godi gwrthrychau gyda’ch dwylo rhithiwr. Mae’r amgylchyfydoedd 3D realistig yn gwneud i chi deimlo eich bod chi yn y byd hwnnw. Dewisiom y llwybr hwn yn hytrach na fidio 360 gradd er mwyn cael rheolaeth llawn dros brofiad y defnyddiwr.

Mae llais actor neu actores yn Gymraeg neu Saesneg yn gweithredu fel eich monolog mewnol. Mae’r llais hwn yn disgrifio eich pryderon o fewn y byd sydd o’ch cwmpas ac yn eich procio i gwblhau y tasgau yn mhob senario i wthio’r naratif ymlaen. Dyma eiliad o ddryswch a thristwch wrth i ni fynd ar daith drwy rhai o faterion anoddaf dementia.

Roedd un senario yn gofyn am ‘sgwrs’ gyda person arall – ond doedd model 3D o berson ddim yn mynd i edrych yn iawn. Felly aethom ati i adeiladu rig dau gamera arbennig i ffilmio deunydd 3D stereosgopig o actores yn ein stiwdio sgrîn werdd. Roedd modd gosod y deunydd hwn yn ein byd rhithiol a chadw’r un argraff o ddyfnder â gwrthrych 3D arferol.

00

Mae Dementia Yn fy Nwylo I wedi’i wneud ar gyfer Oculus Rift

Mae’r prosiect hwn wedi’i gomisiynu gan Cyngor Gwynedd a’i arianu gan gynllun Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ac Arloesi Gwynedd

00