Cronfa Arloesedd Digidol yng Nghymru
Dylunio ac Adeiladu Gwefan
Roedd NESTA a Chyngor y Celfyddydau Cymru yn awyddus i greu gwefan i roi lle iddynt adrodd straeon am y Gronfa Arloesi Digidol yng Nghymru ac arddangos digwyddiadau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r rhaglen oddi amgylch Cymru.
Mae’r wefan ddwyieithog newydd hon yn cynnwys gwybodaeth am brosiectau a ariennir, straeon newyddion, integreiddio Mailchimp, hysbysiadau cynnwys newydd ar y bwrdd gwaith, crofennu diogelwch a llu o nodweddion eraill.
Bydd y wefan o fudd i greu a rhannu gwybodaeth am ddulliau newydd mewn tri maes craidd:
- Sut mae artistiaid yn gwneud gwaith
- Sut i gyrraedd, ymgysylltu a chynnal perthynas gyda chynulleidfaoedd
- Sut i gynnal y sector a sut y gall cynaliadwyedd gael ei ymgorffori mewn meddwl strategol ac arferion o ddydd i ddydd.
Bydd y wefan o gymorth i ddangos set newydd o werthoedd a ddylai fod yn sail diwylliant o arloesi o fewn y celfyddydau yng Nghymru.