Fferm Ddiogel
Mae Fferm Ddiogel wedi’i dylunio i helpu dysgwyr i nodi a deall peryglon posibl ar y fferm, yn ogystal â dysgu sut i’w hosgoi mewn ffyrdd diogel ac ymarferol. Archwiliwch iard y fferm, lle byddwch yn dysgu am y peryglon sy’n gysylltiedig â lleoliadau amaethyddol ac offer a geir yn gyffredin ar y fferm. Ymwelwch â’n canolfan hyfforddi ATV, lle byddwch yn dysgu am beryglon reidio ATVs. Yn olaf, gallwch gael profiad o weithio gydag anifeiliaid mewn amgylchedd diogel a rheoledig, gan ddysgu am y risgiau sy’n gysylltiedig â thrin da byw.
Mae ein ap yn cynnwys pum avatar cyfeillgar, Ceri, Bevan, Jack, Yana, a Geth, a fydd yn eich arwain trwy bob senario, gan roi awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar hyd y ffordd. Byddant yn eich helpu i nodi peryglon, deall y risgiau posibl y maent yn eu hachosi, a sut i osgoi’r risgiau hynny.
Perffaith ar gyfer darlithwyr ac aseswyr sydd eisiau addysgu elfennau ymarferol o’r cwricwlwm mewn amgylchedd diogel a rheoledig.
Mae sain yr adnodd hwn yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg a Chymraeg.
Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.