asiant creadigol unigryw

Chwilio
ency

Legal Alliance Wales

Presenoldeb, Cynllunio ac Adeiladu Gwefan

Tri chwmni cyfreithiol yn uno i gynnig arbenigedd i fusnesau Cymreig.

Gwahoddwyd Galactig i dendro am y cyfle i greu brandio a phroffil ar y we i Legal Alliance Wales – LAW – tri chwmni cyfreithiol cydnabyddedig sydd wedi uno er mwyn cynnig gwasanaethau busnes cynhwysfawr i sefydliadau yng Nghymru. Y nod yw darparu arbenigedd dwy-ieithog ar faterion busnes a chorfforaethol a chynnig cyngor arbenigol ar briffyrdd, mwynau, egni, ansolfedd a materion amaethyddol yma ar garreg ein drws.

Mae gan Swayne Johnson Solicitors swyddfeydd ar draws Gogledd a Gogledd Ddwyrain Cymru; mae cwmni Knox wedi’i leoli yn Llandudno; ac mae gan gwmni Dyne swyddfeydd ym Mangor ac ar y ffin rhwng Swydd Gaer a Gogledd Cymru. Rhyngddynt maent yn cyflogi dros 100 o weithwyr.

Roedd y tri chwmni eisoes yn cyfeirio busnesau a chleientiaid corfforaethol at y naill a’r llall pan ddaethant i’r casgliad bod galw mawr am y sgiliau y gallent eu cynnig ar y cyd.

Mae LAW yn fan cyswllt cyntaf ar gyfer cyfeirio arweinwyr busnes a pherchnogion busnesau gwledig yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru at yr arbenigedd sydd fwyaf addas iddynt.

00