asiant creadigol unigryw

Chwilio
ency

Llond Ceg

Ap Symudol

Cynlluniwyd yr ap Llond Ceg ar gyfer Green Bay Media i gefnogi rhaglen deledu o’r un enw.  Mae rhaglen Llond Ceg wedi’i anelu at bobl ifanc yn eu harddegau ac mae’r ap yn llawn o gymorth a chyngor gan bobl ifanc ar faterion sydd o bwys mawr i bobl ifanc.  O ddelio â straen gwaith cartref i rieni’n ysgaru, o secstio i hunan-niwed mae’r ap yn mynd i’r afael a phroblemau bach a MAWR sy’n wynebu plant a phobl ifanc heddiw.

Mae’r ap yn cynnig cyngor defnyddiol, clipiau fideo sy’n llawn cymorth a chyngor gan bobl ifanc sy’n siarad o brofiad personol, a lincs at gefnogaeth arbenigol.  Yn y clipiau animeiddio “What should I do?” mae cyfle i CHI wneud penderfyniadau am broblemau’r cymeriadau; gallwch wylio clipiau o wynebau cyfarwydd yn rhannu eu cyfrinachau am eu cusan cyntaf neu fwlio; a gallwch wrando ar feddygon ifainc yn siarad yn agored am lencyndod ac iechyd.

Mae ail gyfres o Llond Ceg wedi’i chomisiynu ac ar hyn o bryd mae Galactig yn creu graffeg teledu newydd, animeiddiadau a diweddariadau i’r ap.