asiant creadigol unigryw

Chwilio
ency

Pontio

Ap llywio

Mae Pontio, cartref newydd y celfyddydau ac arloesi ym Mangor, yn adeilad sylweddol 8 llawr. Yn ogystal â Theatr Bryn Terfel a Sinema, mae nifer o ardaloedd perfformio, caffis, theatrau darlithio a mannau arloesi. Mae’r ap dwyieithog o gymorth i ymwelwyr ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas y lle.

00

Mapio

Defnyddiwyd y ffeiliau pensaernïol AutoCad cyfredol i greu darluniadau yn arddull Google Maps i 8 llawr yr adeilad. Cerddwyd pob llawr o’r adeilad cyn i’r adeilad agor ym mis Tachwedd 2015 er mwyn sicrhau cywirdeb.

CMS

Adeiladwyd System Rheoli Cynnwys (CMS) arbennig er mwyn galluogi Pontio i gynnal a chadw a diweddaru’r ap. Mae’r SRhC yn galluogi golygwyr i uwchlwytho marcwyr ac ardaloedd wedi eu hamlygu i bob un o’r 8 llawr, gan ddefnyddio’r union fapiau i raddfa sydd yn cael eu defnyddio yn yr ap er mwyn sicrhau trosoledd hydred a lledred yn y dyfodol.
00

Lawrlwytho