asiant creadigol unigryw

Chwilio
ency

Rhestr

Graffeg teledu ac ap symudol

Cwis Cymraeg newydd sbon ar S4C yn cael ei gyflwyno gan Huw Stephens, DJ Radio 1  – gellir cyd-chwarae â’r rhaglen gydag ap symudol dwyieithog!

Brandio a graffeg

Roedd cwis newydd Rondo ar gyfer S4C angen hunaniaeth weledol gref – sicrhawyd bod cysondeb rhwng yr holl waith graffeg, graffeg symudol a dyluniad rhyngwyneb y defnyddiwr yr ap symudol.

Gan weithio’n glos â thîm cynhyrchu Rondo, llwyddom i greu set drawiadol o asedau a fydd yn galluogi i’r cwis sefyll allan ymysg unffurfiaeth edrychiad arferol y rhan fwyaf o gwisiau teledu.

Cafodd yr asedau graffigol eu darparu i Kinetic Pixel, a oedd yn gyfrifol am dechnoleg y gêm yn y stiwdio. Roedd Kinetic Pixel hefyd yn gallu defnyddio’r system rheoli cynnwys (CMS) yr oeddem wedi ei chreu gogyfer â chyflenwi graffeg teledu.

Ap cyd-chwarae

Rhan greiddiol o apêl Rhestr fel fformat cwis yw’r gallu i wylwyr gyd chwarae yn y cartref. Darlledir y rhaglen yn y Gymraeg, ond mae’r ap ar gael yn ddwyieithog yn y Gymraeg a Saesneg er mwyn caniatáu i aelwydydd ieithoedd cymysg fwynhau’r cwis gyda’i gilydd.

Mae pob cwestiwn wedi eu cydamseru â’r ap er mwyn iddynt ymddangos ar y sgrin adref yr un pryd a’r sgrin gyda sgorau yn cael eu cyflwyno oddi fewn i’r ap er mwyn annog cystadleuaeth.

Mae dyluniad y rhyngwyneb yn cyd-fynd yn berffaith â’r graffeg teledu er mwyn i’r defnyddiwr deimlo cysylltiad â’r sioe. Roedd sawl her technegol gyda’r ap – cydamseru cymhleth gyda GMT a chodau amser o fewn y rhaglen.

Mae Rhestr ar gael ar ddyfeisiadau Android ac iOS.

00