asiant creadigol unigryw

Chwilio
ency

Rondo Media

Cynllunio ac Adeiladu Gwefan Ddwyieithog

Rondo, cwmni cynhyrchu annibynnol o bwys yn y Deyrnas Unedig.

Mae Rondo yn gwmni cenedlaethol yng Nghymru gyda swyddfeydd yng Nghaernarfon, Porthaethwy a Chaerdydd. Yn gwmni aml-genre, hyderus y gellir ymddiried ynddo,  mae’n cynhyrchu drama, chwaraeon, cerddoriaeth, digwyddiadau, ffeithiol ac adloniant. Buddsoddodd Rondo mewn stiwdio newydd sbon yng Nghaernarfon ac mae gan y cwmni gyfleusterau ôl-gynhyrchu helaeth yn ei swyddfeydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd.

Mae Rondo wedi ennill nifer o wobrau am ei gynyrchiadau gan gynnwys gwobrau Broadcast ac RTS am ei drama gyfres i BBC1 The Indian Doctor ynghyd â nifer o wobrau BAFTA a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Mae Rondo yn cyflogi dros 60 o staff llawn amser a hyd at 120 yn gweithio’n llawrydd a rhan-amser. Mae Rondo yn ehangu ei orwelion i gynhyrchu ar gyfer rhwydweithiau rhyngwladol ynghyd â chreu cynnwys digidol aml-blatfform.

Roedd tasg Galactig yn syml – cynllunio ac adeiladu gwefan ddeinamig a fyddai’n arddangos nodweddion hyderus a dibynadwy Rondo. Ar ôl adfywio’r brand adeiladwyd gwefan unigryw a fyddai’n ddigon hyblyg i roi llwyfan i Grŵp Rondo a’i is-gwmniau Yeti Media a Galactig o fewn y diwydiant.

00