asiant creadigol unigryw

Chwilio
ency

Slide

sibrwd

ap symudol | llwyfan corfforaethol

Llais bach yn eich clust i agor perfformiadau mewn unrhyw iaith.

Mae Sibrwd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau perfformiad mewn unrhyw iaith, waeth pa iaith maent yn ei siarad.

Mae Galactig wedi gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar brosiect Sibrwd ers Tachwedd 2013 yn dilyn cymorth ariannol gan gronfa Ymchwilio a Datblygu Digidol y Celfyddydau yng Nghymru NESTA a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ac arian cyhoeddus gan y Loteri drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Roedd ein dull hyblyg o ddatblygu’r syniad yn ateb gofynion y consortiwm ymchwil i’r dim.  Roedd y broses yn cynnwys profi cynulleidfaoedd drama  mewn sawl lleoliad drwy Gymru.  Cynhaliwyd sesiynau adborth yn dilyn y perfformiadau a throsglwyddwyd  y canlyniadau i’r broses gynllunio, datblygu a chynhyrchu.

Treialwyd Sibrwd ym mis Hydref 2014 mewn gŵyl gelf ieithoedd lleiafrifol yn yr Almaen lle trosglwyddwyd llwyfaniad o’r ddrama Pridd i’r ieithoedd Saesneg, Almaeneg a Sorbian drwy gyfrwng yr ap.

Bellach mae Sibrwd yn rhan allweddol o raglen Theatr Genedlaethol Cymru ac fe fydd ar gael i’w drwyddedu erbyn dechrau 2015.  Mae Galactig a Theatr Genedlaethol Cymru ar y cyd yn chwilio am arian ychwanegol er mwyn datblygu’r prosiect ymhellach.

Cipolwg