SNAP Cymru
Cynllunio a Datblygu Gwefan
Supporting families of children and young people with additional learning needs
Gwefan ddwyieithog yw www.snapcymru.org sy’n darparu gwybodaeth bwysig i rieni a phobl ifanc ar agweddau amrywiol Anghenion Addysgol Ychwanegol; mae’n helpu plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawn botensial drwy sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth annibynnol ar gael i deuluoedd.
Dathlwyd lansiad gwefan ddwyieithog newydd SNAP Cymru mewn digwyddiad yn y Pierhead ym Mae Caerdydd ym mis Hydref 2014. Noddwyd y digwyddiad gan Huw Lewis AC – Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Ruth Conway – Pennaeth y Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol, fu’n siarad ar ei ran.
Siaradodd Nia Frobisher a Rebecca Bartle, dwy wirfoddolwraig ifanc, yn Gymraeg a Saesneg gan esbonio sut mae’r wefan newydd yn cwrdd â’r galw am lwyfan dwyieithog a hyblyg arlein sydd ar gael ar bob dyfais yn cynnwys ffôn clyfar, tabled neu liniadur. Rhoddwyd amlinelliad hefyd ganddynt o’r ffordd y mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad SNAP i ddarparu gwybodaeth hygyrch, dibynadwy a chywir i bob teulu, yn eu dewis iaith, a soniwyd am allu’r gwefannau i rannu erthyglau, newyddion ac adborth drwy Facebook, Twitter, cylchlythyr a thudalennau rhyngweithiol. Arddangoswyd gwefan ac ap unigryw SNAP Cymru, Wmff! hefyd. Mae Nia yn astudio’r gyfraith yn King’s College Llundain ar hyn o bryd, ac mae ei gwaith gwirfoddol yn cynnwys cynghori pobl ifanc ynglŷn â’u hawliau cyfreithiol, ac mae Rebecca yn gobeithio astudio Anthropoleg Gymdeithasol yn y Brifysgol.