

Dyma ap tabl cyfnodol cyfrwng Cymraeg sy’n llawn ffeithiau a lluniau, ac sy’n ddelfrydol i fyfyrwyr, athrawon, neu unrhyw un â diddordeb mewn cemeg.
Oeddech chi’n gwybod bod americiwm yn cael ei ddefnyddio mewn canfodyddion mwg? Oeddech chi’n gwybod mai twngsten yw’r elfen â’r ymdoddbwynt uchaf? Dyna ddwy o’r ffeithiau difyr sydd wedi’u cynnwys yn yr ap cyfrwng Cymraeg hwn, sydd wedi’i seilio ar wefan ac ap poblogaidd ac uchel eu parch y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Gallwch chi ddefnyddio’r llithrydd rhyngweithiol i weld sut mae elfennau’n newid cyflwr wrth i’r tymheredd gynyddu ac addasu’r ap i ddangos dim ond yr hyn sydd o ddiddordeb i chi.
Mae data ffisegol a chemegol ar gael yn sydyn a syml ar ffurf testun a graffigau.