asiant creadigol unigryw

Chwilio
ency

Theatr Genedlaethol Cymru

Adeiladu a Chynllunio Gwefan

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn creu naratif cenedlaethol sy’n cynrychioli diwylliant deinamig Cymru drwy greu theatr arloesol a chynyrchiadau uchelgeisiol yn y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt – ar brif lwyfannau, mewn lleoliadau annisgwyl, ac yng nghalon ein cymunedau.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Galactig wedi cyd-weithio’n gyson efo Theatr Genedlaethol Cymru ar waith print a digidol – gan gynnwys gwefannau Sibrwd ac Ein Tir.  Roeddem yn falch iawn felly o dderbyn cytundeb i gynllunio a datblygu proffil newydd dwyieithog y cwmni ar y we.

Mae’r wefan newydd yn gwneud defnydd helaeth o ddelweddau dramatig a grëwyd ar gyfer ac yn ystod cynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru.   Prif nod y wefan yw hybu cynyrchiadau dramatig sydd ar y gweill.  Yn ogystal bydd y wefan yn cynnwys archif hanesyddol o gynyrchiadau, newyddion, blogiau a gwybodaeth bellach am waith y cwmni.

00

Cipolwg