asiant creadigol unigryw

Chwilio
ency

TRO

Teithiau Tywys Realiti Estynedig

Tyrd i agor drws ein henwau lleoedd yn ardal ogleddol Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a chael dy arwain at gyfoeth ein treftadaeth. Tyrd ar antur ar hyd llwybrau realiti estynedig dy ffôn a darganfod mwy am gyfoeth yr iaith a hanes Cymru o fewn yr ardal arbennig hon o harddwch naturiol eithriadol.

Ap i’th dywys ar droed gan Mynyddoedd Pawb yw Tro. Tyrd ar antur ar hyd llwybrau realiti estynedig ar gamera dy ffôn, a dod i wybod mwy am gyfoeth hanes Cymru o’th gwmpas.

Cafodd Tro ei ariannu gan Gynllun 2050 Llywodraeth Cymru, a’i adeiladu gan Galactig, sy’n ran o Grŵp Rondo Media.

 

Ffynhonnell wybodaeth ar gyfer Tro, ‘Dictionary of the Place Names of Wales’ a ‘Placenames of Flintshire’, Hywel Wyn Owen