Mae ein cyfarwyddwr creadigol Derick Gwyn Murdoch yn gyffrous i fod yn rhan o’r garfan ar gyfer y Rhaglen Cynnwys Cydgyfeiriol newydd sy’n cael ei rhedeg gan Tramshed Tech ac M-Sparc.
Mae’r Rhaglen Cynnwys Cydgyfeiriol yn cysylltu diwydiannau technolegol a chreadigol, i archwilio ffyrdd newydd o greu cynnwys, cysylltu â chynulleidfaoedd newydd ac ehangu dosbarthiad cynnwys. Trwy amrywiaeth o weithdai a digwyddiadau, mae’r rhaglen hon wedi ymrwymo i amrywiaeth a chynhwysiant, gan wneud y metaverse yn hygyrch i fwy o bobl a meithrin cydweithredu.
Gallwch ddarganfod mwy am y rhaglen yma.