Nid yw’r eitem newyddion yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.
Dementia Yn Fy Nwylo I / First Hand yn Rownd Derfynol Gwobrau Rithwir (VR) 2019
Rydym yn hynod o falch o gyhoedd bod Dementia Yn Fy Nwylo I/First Hand VR wedi cael ei enwebu i fynd i rownd derfynol categori Effaith Gymdeithasol yng ngwobrau VR Awards (Gwobrau Rhithwir) eleni – Baftas y byd cyfrifiadura rhithwir.
Mae’r Gwobrau Rhithwir yn chwarae rhan ganolog mewn cydnabod a dathlu cyflawniad rhagorol ym myd rhith-realiti. Maent hefyd yn cefnogi mentrau rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn. Mae’r Gwobrau Rhithwir yn dwyn ynghyd noson o uchafbwyntiau ar y carped coch, dathlu rhagoriaeth yn y maes ac yn cynnig mynediad unigryw i rai o enwau mwyaf dylanwadol y diwydiant.
Rhoddir y wobr Effaith Gymdeithasol i gwmnïau neu unigolion sy’n cynhyrchu ac yn gweithredu naill ai profiad, cynnyrch ac/neu wasanaeth sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar achos yn ymwneud a lles cymdeithasol.
Mae Galactig yn gwynebu cystadleuaeth ryngwladol gref- byddwn yn croesi bysedd tan y seremoni wobrwyo ym mis Tachwedd!
Yn ôl Daniel Colaianni, Prif Weithredwr AIXR-
“Mae’r Gwobrau Rhithwir yn llwyfan i arloeswyr a phobl greadigol y dyfodol. Mae’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol heddiw yn haeddu cydnabyddiaeth ac yn haeddu cael eu dathlu am eu gwaith rhagorol. Mae’r Gwobrau Rhithwir yn ymdrechu i gydnabod pob rhan o’r diwydiant llewyrchus hwn wrth iddo barhau i dyfu.”
