Asiantaeth ddigidol greadigol wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru yw Galactig. Rydym yn arbenigo mewn ymgynghori creadigol, apiau symudol, cynllunio gwefannau, profiad y defnyddiwr, cynllunio rhyngwynebau, cynllunio lluniadol, e-Ddysgu, brandio, cynhyrchu fideo a graffeg symudol.
Wrth wraidd yr adran mae creadigrwydd ac angerdd i gyfathrebu naratif effeithiol drwy dechnegau digidol waeth be fo’r cynnyrch – o raglenni symudol i blatfformau eDdysgu sydd wedi eu hadeiladu yn bwrpasol – gan ganolbwyntio ar ddefnyddioldeb a chynnwys gyda syniadau mawr yn graidd i’r holl waith.
Cydweithiwn â chi, gan ofyn y cwestiynau cywir i gynhyrchu’r cynnyrch yr ydych chi ei eisiau – gwireddwn y stori yr ydych chi eisiau ei dweud. Wrth eich gwneud chi’n ganolog i’r holl broses gallwn ddeall eich disgwyliadau.