Pecyn Graffeg Symudol “The Truth About My Murder“
Fe wnaethom ymgymryd â’r gwaith o greu pecyn graffeg symudol ar gyfer cyfres deledu CBS Reality, “The Truth About My Murder.” Yn canolbwyntio ar straeon trosedd go iawn, roedd angen dilyniant teitl nodedig a mapiau enghreifftiol yn dangos y llwybrau teithio a ddefnyddiwyd gan y drwgweithredwyr. Chwaraeodd arbenigedd Galactig ran hanfodol wrth greu graffeg a oedd yn cyd-fynd â chynnwys fforensig y rhaglen.
Teitlau Agoriadol gydag Elfennau Fforensig
Datblygodd Galactig deitlau agoriadol trawiadol a oedd yn cyfuno elfennau fforensig sy’n gydnaws â chynnwys y rhaglen yn gelfydd. Nod y dyluniad oedd swyno gwylwyr o’r cychwyn cyntaf, gan gynnau eu chwilfrydedd yn ogystal â dangos y dwyster yn nirgelwch pob llofruddiaeth sy’n ymddangos yn y gyfres.
Mapiau Llwybrau Llofruddiaeth
Rhan annatod o’r pecyn graffeg symudol oedd creu mapiau manwl yn dangos y daith bu’r llofruddwyr arnynt ym mhob achos. Roedd y delweddau deinamig a deniadol yma yn arf adrodd stori gwerthfawr, gan roi dealltwriaeth daearyddol i wylwyr o’r digwyddiadau sy’n datblygu a’r prosesau ymchwilio.


