TELERAU AC AMODAU – TRWYDDEDAU AP ARFER 

Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus. 

Drwy lawrlwytho’r ap hwn, rydych yn cytuno i’r telerau hyn. Os nad ydych chi’n cytuno â nhw, peidiwch â defnyddio’r ap.

Pwy ydym ni a beth mae’r cytundeb hwn yn ei wneud

Rydym ni, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg Bangor Gwynedd LL57 2DG yn eich trwyddedu i ddefnyddio:

  • Meddalwedd Ap ARFer ar gyfer dyfeisiau symudol, y data a gyflenwir gyda’r meddalwedd, (Ap) ac unrhyw ddiweddariadau neu atodiadau iddo.

fel y caniateir yn y telerau hyn

Eich Preifatrwydd 

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae’n rhaid i ni ddarparu gwybodaeth benodol i chi yn cynnwys pwy ydym ni, sut rydym yn prosesu eich data personol ac at ba ddibenion, a’ch hawliau chi mewn perthynas â’ch data personol a sut i’w defnyddio. Darperir y wybodaeth hon yn https://www.bangor.ac.uk/governance-and-compliance/dataprotection/documents/General-Public-Data-Protection-Privacy-Notice-approved-October-2020-CY.pdf ac mae’n bwysig eich bod yn darllen y wybodaeth honno.

Mae telerau Apple App Store a Google Play Store hefyd yn berthnasol

Gall y ffyrdd y gallwch chi ddefnyddio’r Ap a’r Dogfennau hefyd gael eu rheoli gan reolau a pholisïau Apple App Store (https://www.apple.com/uk/legal/internet-services/itunes/uk/terms.html) a bydd rheolau a pholisïau Google Play Store (https://play.google.com/about/play-terms/index.html) yn berthnasol yn lle’r telerau hyn lle mae yna wahaniaethau rhwng y ddau. 

Polisïau Prifysgol Bangor

Drwy ddefnyddio’r ap hwn, rydych chi’n cytuno i’r polisïau canlynol lle bo hynny’n berthnasol:

Gofynion system weithredu

Mae’r Ap hwn yn gofyn am iOS12 a system weithredu symudol Android 12. 

Cymorth ar gyfer yr Ap a sut mae rhoi gwybod i ni am broblemau

Cymorth. Os hoffech chi ddysgu mwy am yr Ap neu’r Gwasanaeth neu os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth eu defnyddio, edrychwch ar ein hadnoddau cymorth yn https://www.bangor.ac.uk/cy/arfer.

Cysylltu â ni (yn cynnwys gyda chwynion). Os ydych chi’n meddwl bod yr Ap neu’r Gwasanaethau yn ddiffygiol neu’n cael eu cam-ddisgrifio, neu os ydych chi’n dymuno cysylltu â ni am unrhyw reswm arall, ffoniwch ni ar +441248351151, anfonwch neges e-bost at ein tîm gwasanaeth i gwsmeriaid yn arfer@bangor.ac.uk neu anfonwch lythyr at: Prifysgol Bangor, Bangor, Ffordd y Coleg, LL57 2DG

Sut byddwn ni’n cyfathrebu â chi. Os bydd yn rhaid i ni gysylltu â chi, byddwn yn gwneud hynny drwy e-bost gan ddefnyddio’r manylion cyswllt rydych chi wedi’u rhoi i ni.

Sut y cewch chi ddefnyddio’r Ap, gan gynnwys faint o ddyfeisiau y cewch chi ei ddefnyddio arnynt

Yn gyfnewid am gytuno i gydymffurfio â’r telerau hyn, cewch:

lawrlwytho copi o’r Ap i dri FFÔN SYMUDOL NEU DDYFEISIAU SY’N CAEL EU DAL Â LLAW a gweld, defnyddio ac arddangos yr Ap a’r Gwasanaeth ar y cyfryw ddyfeisiau at eich dibenion personol chi yn unig.

defnyddio unrhyw Ddogfennau i gefnogi’r defnydd a ganiateir o’r Ap a’r Gwasanaeth.

derbyn a defnyddio unrhyw god neu ddiweddariad meddalwedd atodol am ddim i’r Ap sy’n cynnwys “patsys” a chywiriadau o wallau a ddarperir gennym ni i chi.

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i dderbyn y telerau hyn a phrynu’r Ap.  

Ni chewch drosglwyddo’r Ap i rywun arall

Rydym yn rhoi’r hawl i chi’n bersonol i ddefnyddio’r Ap a’r Gwasanaeth fel y nodir uchod (Sut y cewch chi ddefnyddio’r ap hwn). Fel arall, ni chewch drosglwyddo’r Ap na’r Gwasanaeth i rywun arall, boed hynny am arian, am unrhyw beth arall neu am ddim. Os ydych chi’n gwerthu unrhyw ddyfais y mae’r Ap wedi’i osod arni, rhaid i chi dynnu’r Ap oddi arni.

Newidiadau i’r telerau hyn

Efallai y bydd angen i ni newid y telerau hyn i adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith neu arfer gorau neu i ddelio â nodweddion ychwanegol a gyflwynir gennym.

Byddwn yn rhoi o leiaf 30 diwrnod o rybudd i chi am unrhyw newid drwy anfon e-bost atoch gyda manylion y newid neu roi gwybod i chi am newid y tro nesaf y byddwch yn dechrau’r Ap. 

Os na fyddwch yn derbyn y newidiadau yr hysbyswyd chi ohonynt, ni chaniateir i chi barhau i ddefnyddio’r Ap a’r Gwasanaeth.

Diweddaru’r Ap a newidiadau i’r Gwasanaeth

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn diweddaru’r Ap yn awtomatig ac yn newid y Gwasanaeth er mwyn gwella perfformiad, gwella swyddogaethau, adlewyrchu newidiadau i’r system weithredu neu fynd i’r afael â materion diogelwch. Neu efallai y byddwn yn gofyn i chi ddiweddaru’r Ap am y rhesymau hyn. 

Os byddwch chi’n dewis peidio â gosod diweddariadau o’r fath neu os byddwch chi’n dewis peidio â chael diweddariadau awtomatig, efallai na fyddwch chi’n gallu parhau i ddefnyddio’r Ap a’r Gwasanaethau. 

Bydd yr Ap bob amser yn gweithio gyda fersiwn presennol neu flaenorol y system weithredu (fel y caiff ei diweddaru o bryd i’w gilydd) a bydd yn cyfateb i’r disgrifiad a roddwyd i chi pan wnaethoch ei brynu.

Os mai rhywun arall sy’n berchen ar y ffôn neu’r ddyfais rydych chi’n ei defnyddio

Os byddwch chi’n lawrlwytho’r Ap i unrhyw ffôn neu ddyfais nad ydych chi’n berchen arni, rhaid i chi gael caniatâd y perchennog i wneud hynny. Byddwch chi’n gyfrifol am gydymffurfio â’r telerau hyn, p’un a ydych yn berchen ar y ffôn neu ddyfais arall ai peidio. 

Nid ydym ni’n gyfrifol am wefannau eraill rydych chi’n cysylltu â nhw

Gall yr Ap neu unrhyw Wasanaeth gynnwys dolenni i wefannau annibynnol eraill nad ydynt yn cael eu darparu gennym ni. Nid yw safleoedd annibynnol o’r fath o dan ein rheolaeth; nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys na’u polisïau preifatrwydd (os oes rhai) ac nid ydym wedi eu gwirio a’u cymeradwyo. 

Bydd angen i chi wneud eich penderfyniad annibynnol eich hun ynghylch a ddylid defnyddio unrhyw safleoedd annibynnol o’r fath, gan gynnwys a ddylid prynu unrhyw gynnyrch neu wasanaethau a gynigir ganddynt. 

Cwmpas y Drwydded 

Byddwch yn cael trwydded anhrosglwyddadwy, anghyfyngedig, na ellir ei rhoi ar is-drwydded i osod a defnyddio’r Rhaglen Drwyddedig ar unrhyw ddyfeisiau yr ydych Chi (y Defnyddiwr) yn meddu arnynt neu’n eu rheoli ac fel y caniateir gan y Rheolau Defnyddio a nodir yn yr adran hon ac yn Nhelerau Gwasanaeth yr App Store, ac eithrio y gall cyfrifon eraill sy’n gysylltiedig â Chi (Y Defnyddiwr, Y Prynwr) gael mynediad at y cyfryw Raglen Drwyddedig a’i defnyddio drwy drefniant Rhannu o fewn Teulu neu swmp brynu.

Cyfyngiadau ar y drwydded

Rydych yn cytuno y byddwch:

oni bai i’r graddau a ganiateir gan Delerau ac Amodau’r App Store berthnasol, a chyda chaniatâd ysgrifenedig Prifysgol Bangor ymlaen llaw, yn peidio â gosod, prydlesu, is-drwyddedu, rhoi ar fenthyg, darparu, neu’n cynnig fel arall, yr Ap neu’r Gwasanaethau mewn unrhyw ffurf, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i unrhyw berson heb ganiatâd ysgrifenedig gennym ni ymlaen llaw;

yn peidio â chopïo’r Ap, y Dogfennau na’r Gwasanaethau, ac eithrio fel rhan o’r defnydd arferol o’r Ap neu pan fydd hynny’n angenrheidiol at ddibenion gwneud copïau wrth gefn neu ddiogelwch gweithredol;

yn peidio â chyfieithu, cyfuno, addasu, amrywio, newid nac addasu’r cyfan neu unrhyw ran o’r Ap, y Dogfennau na’r Gwasanaethau na chaniatáu i’r Ap neu’r Gwasanaethau neu unrhyw ran ohonynt gael eu cyfuno ag unrhyw raglenni eraill, neu gael eu hymgorffori ynddynt, ac eithrio fel sy’n angenrheidiol i ddefnyddio’r Ap a’r Gwasanaethau ar ddyfeisiau fel y caniateir yn y telerau hyn;

yn peidio â datgymalu, dadgrynhoi, peiriannu o chwith na chreu gweithiau deilliadol sy’n seiliedig ar y cyfan neu unrhyw ran o’r Ap neu’r Gwasanaethau na cheisio gwneud unrhyw bethau o’r fath, ac eithrio i’r graddau (yn rhinwedd adrannau 50B a 296A o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988) na ellir gwahardd gweithredoedd o’r fath oherwydd eu bod yn angenrheidiol i ddadgrynhoi’r Ap i gael y wybodaeth angenrheidiol i greu rhaglen annibynnol sy’n gallu gweithredu gyda’r Ap neu gyda rhaglen arall (Amcan a Ganiateir), ac ar yr amod bod y wybodaeth a gewch chi yn ystod gweithgareddau o’r fath:

yn peidio â chael ei datgelu na’i chyfathrebu heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Trwyddedwr i unrhyw drydydd parti nad oes angen datgelu na chyfleu’r wybodaeth iddo er mwyn cyflawni’r Amcan a Ganiateir; ac

yn peidio â chael ei ddefnyddio i greu unrhyw feddalwedd sy’n debyg iawn yn ei fynegiant i’r Ap;

yn cael ei chadw’n ddiogel; ac

nad yw ond yn cael ei defnyddio ar gyfer yr Amcan a Ganiateir;

yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a chyfreithiau perthnasol ar gyfer rheoli neu allforio technoleg sy’n berthnasol i’r dechnoleg a ddefnyddir neu a gefnogir gan yr Ap neu unrhyw Wasanaeth.

Bydd torri’r rhwymedigaethau a nodir uchod, yn ogystal â cheisio cyflawni tor-amod o’r fath, yn destun erlyniad ac iawn.              

Cyfyngiadau defnydd derbyniol

Rhaid i chi: 

peidio â defnyddio’r Ap nac unrhyw Wasanaeth mewn unrhyw ffordd anghyfreithlon, at unrhyw ddiben anghyfreithlon, neu mewn unrhyw ffordd sy’n anghyson â’r telerau hyn, na gweithredu’n dwyllodrus neu’n faleisus, er enghraifft, drwy hacio i mewn i’r Ap, unrhyw Wasanaeth neu unrhyw system weithredu neu fewnosod cod maleisus, fel firysau, neu ddata niweidiol;

peidio â thorri ein hawliau eiddo deallusol na hawliau unrhyw drydydd parti mewn perthynas â’ch defnydd o’r Ap neu unrhyw Wasanaeth, gan gynnwys drwy gyflwyno unrhyw ddeunydd (i’r graddau nad yw defnydd o’r fath wedi’i drwyddedu gan y telerau hyn);

peidio â throsglwyddo unrhyw ddeunydd sy’n ddifenwol, yn sarhaus neu’n annerbyniol fel arall mewn perthynas â’ch defnydd o’r Ap neu unrhyw Wasanaeth;

peidio â defnyddio’r Ap neu unrhyw Wasanaeth mewn ffordd a allai niweidio, analluogi, gorlwytho, amharu ar neu beryglu ein systemau neu ein diogelwch neu ymyrryd â defnyddwyr eraill; a

peidio â chasglu na chywain unrhyw wybodaeth na data o unrhyw Wasanaeth na’n systemau na cheisio dehongli unrhyw drosglwyddiadau i’r gweinyddion sy’n rhedeg unrhyw Wasanaeth neu ohonynt.

Hawliau eiddo deallusol

Mae’r holl hawliau eiddo deallusol yn yr Ap, y Dogfennau a’r Gwasanaethau ledled y byd yn eiddo i ni ac mae’r hawliau yn yr Ap a’r Gwasanaethau yn cael eu trwyddedu (nid eu gwerthu) i chi. Nid oes gennych unrhyw hawliau eiddo deallusol yn yr Ap, y Dogfennau na’r Gwasanaethau nac yn gysylltiedig ac eithrio’r hawl i’w defnyddio yn unol â’r telerau hyn.

Ein cyfrifoldeb ni dros golled neu ddifrod a ddioddefir gennych chi

Rydym yn atebol i chi am golled a difrod y gellir eu rhagweld a achosir gennym. Os na fyddwn ni’n cydymffurfio â’r telerau hyn, rydym yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod y byddwch yn ei ddioddef sy’n ganlyniad y gellir ei ragweld am inni dorri’r telerau hyn neu fethu â defnyddio gofal a sgil resymol, ond nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod na ellir eu rhagweld. Gellir rhagweld colled neu ddifrod un ai os yw’n amlwg y bydd yn digwydd neu, ar yr adeg y gwnaethoch dderbyn y telerau hyn, ein bod ni a chithau’n gwybod y gallai ddigwydd.

Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar ein hatebolrwydd i chi lle byddai’n anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr, ein hasiantau neu ein hisgontractwyr neu am dwyll neu gamliwio twyllodrus.

Pan ydym ni’n atebol am ddifrod i’ch eiddo. Os bydd cynnwys digidol diffygiol rydym wedi’i ddarparu yn niweidio dyfais neu gynnwys digidol sy’n eiddo i chi, byddwn unai’n trwsio’r difrod neu’n talu iawndal i chi. Fodd bynnag, ni fyddwn yn atebol am ddifrod y gallech fod wedi’i osgoi drwy ddilyn ein cyngor i ddefnyddio diweddariad a gynigiwyd i chi yn rhad ac am ddim nac am ddifrod a achoswyd gan i chi fethu â dilyn cyfarwyddiadau gosod yn gywir neu fod â’r gofynion sylfaenol ar waith o ran y system.

Nid ydym yn atebol am golledion busnes. Mae’r Ap at ddefnydd domestig a phreifat. Os ydych chi’n defnyddio’r Ap at unrhyw ddiben masnachol, busnes neu ailwerthu, ni fyddwn yn atebol o gwbl i chi am unrhyw golled o ran elw, colli busnes, tarfu ar fusnes, neu golli cyfle busnes.

Cyfyngiadau ar yr Ap a’r Gwasanaethau. Darperir yr Ap a’r Gwasanaethau at ddibenion gwybodaeth gyffredinol ac addysgol yn unig. Nid ydynt yn cynnig cyngor y dylech ddibynnu arno. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu beidio â chymryd, unrhyw gamau ar sail gwybodaeth a geir drwy’r Ap neu’r Gwasanaeth. Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar yr Ap a’r Gwasanaeth, nid ydym yn rhoi unrhyw sylwadau, gwarantau na sicrwydd, boed yn ddatganedig neu ymhlyg, bod y gyfryw wybodaeth yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol.

Gwnewch gopi wrth gefn o’r cynnwys a’r data sy’n cael eu defnyddio gyda’r Ap. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud copi wrth gefn o unrhyw gynnwys a data a ddefnyddir mewn cysylltiad â’r Ap, er mwyn diogelu eich hun rhag problemau gyda’r Ap neu’r Gwasanaeth.

Gwnewch yn siŵr bod yr Ap a’r Gwasanaethau yn addas i chi. Nid yw’r Ap a’r Gwasanaethau wedi cael eu datblygu i fodloni eich gofynion unigol. Gwnewch yn siŵr bod cyfleusterau a swyddogaethau’r Ap a’r Gwasanaethau (fel y’u disgrifir ar safle’r App Store ac yn y Dogfennau) yn bodloni eich gofynion.

Nid ydym yn gyfrifol am ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth. Os bydd oedi wrth ddarparu’r Gwasanaethau neu os bydd oedi cyn darparu cymorth gyda’r Ap neu’r Gwasanaethau oherwydd digwyddiad sydd y tu hwnt i’n rheolaeth, byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i roi gwybod i chi a byddwn yn cymryd camau i leihau effaith yr oedi. Ar yr amod ein bod yn gwneud hyn, ni fyddwn yn atebol am unrhyw oedi a achosir gan y digwyddiad, ond os oes risg o oedi sylweddol, gallwch gysylltu â ni i ddod â’ch contract i ben gyda ni a chael ad-daliad am unrhyw Wasanaethau rydych chi wedi talu amdanynt ond heb eu derbyn.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn dod â’r Ap a’r Gwasanaethau i ben. Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy anfon hysbysiad i’r cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif ac i’ch sefydliad. Bydd y Gwasanaethau’n cael eu tynnu’n ôl yn syth ar ôl i’r hysbysiad gael ei anfon i’ch cyfeiriad e-bost.

Gallwn derfynu eich hawliau i ddefnyddio’r Ap a’r Gwasanaethau os byddwch yn torri’r telerau hyn

Gallwn derfynu eich hawliau i ddefnyddio’r Ap a’r Gwasanaethau unrhyw bryd drwy gysylltu â chi os ydych chi wedi torri’r telerau hyn mewn ffordd ddifrifol. Os gellir cywiro’r hyn a wnaethoch, byddwn yn rhoi cyfle rhesymol i chi wneud hynny.

Os byddwn yn terfynu eich hawliau i ddefnyddio’r Ap a’r Gwasanaethau:

Rhaid i chi atal yr holl weithgareddau a awdurdodir gan y telerau hyn, gan gynnwys eich defnydd o’r Ap ac unrhyw Wasanaethau.

Rhaid i chi ddileu neu dynnu’r Ap oddi ar bob dyfais sydd yn eich meddiant a dinistrio’n syth bob copi o’r Ap sydd gennych a chadarnhau i ni eich bod wedi gwneud hyn.

Gallwn drosglwyddo’r cytundeb hwn i rywun arall

Gallwn drosglwyddo ein hawliau a’n rhwymedigaethau o dan y telerau hyn i sefydliad arall. Byddwn bob amser yn dweud wrthych yn ysgrifenedig os bydd hyn yn digwydd a byddwn yn sicrhau na fydd y trosglwyddiad yn effeithio ar eich hawliau o dan y contract. 

Mae angen i chi gael caniatâd gennym ni i drosglwyddo eich hawliau i rywun arall

Dim ond os byddwn yn cytuno’n ysgrifenedig y cewch drosglwyddo eich hawliau neu’ch rhwymedigaethau o dan y telerau hyn i berson arall.

Dim hawliau i drydydd partïon

Nid yw’r cytundeb hwn yn arwain at unrhyw hawliau o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i orfodi unrhyw delerau o’r Cytundeb hwn.

Os bydd llys yn dyfarnu bod rhan o’r contract hwn yn anghyfreithlon, bydd y gweddill yn parhau mewn grym

Mae pob un o baragraffau’r telerau hyn yn gweithredu ar wahân. Os bydd unrhyw lys neu awdurdod perthnasol yn penderfynu bod unrhyw un ohonynt yn anghyfreithlon, bydd y paragraffau sy’n weddill yn parhau mewn grym ac effaith lawn.

Hyd yn oed os byddwn yn oedi cyn gorfodi’r contract hwn, byddwn yn dal i allu ei orfodi yn nes ymlaen

Hyd yn oed os byddwn yn oedi cyn gorfodi’r cytundeb hwn, byddwn yn dal i allu ei orfodi’n nes ymlaen. Os na fyddwn yn mynnu ar unwaith eich bod yn gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i chi ei wneud o dan y telerau hyn, neu os byddwn yn oedi cyn cymryd camau yn eich erbyn mewn perthynas â thorri’r cytundeb hwn, ni fydd hynny’n golygu nad oes rhaid i chi wneud y pethau hynny ac ni fydd yn ein hatal rhag cymryd camau yn eich erbyn yn nes ymlaen.

Pa gyfreithiau sy’n berthnasol i’r cytundeb hwn a ble gallwch chi ddwyn achos cyfreithiol

Mae’r telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr a gallwch ddwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â’r cynnyrch yn llysoedd Cymru a Lloegr. Os ydych chi’n byw yn yr Alban, gallwch ddwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â’r cynnyrch yn llysoedd yr Alban neu lysoedd Cymru a Lloegr. Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ddwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â’r cynnyrch yn y llysoedd yng Ngogledd Iwerddon neu yng Nghymru a Lloegr.

Dulliau amgen o ddatrys anghydfod

Proses yw dull amgen o ddatrys anghydfod lle bydd corff annibynnol yn ystyried ffeithiau anghydfod ac yn ceisio ei ddatrys, heb i chi orfod mynd i’r llys. Gallwch gyflwyno cwyn i Brifysgol Bangor drwy eu gwefan yn https://www.bangor.ac.uk/governance-and-compliance/complaints.php.cy. Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd rydym wedi delio ag unrhyw gŵyn, mae’n bosib yr hoffech chi gysylltu â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yn legalservices@bangor.ac.uk i gychwyn achos ffurfiol dull amgen o ddatrys anghydfod. Ni fydd Prifysgol Bangor yn codi tâl arnoch am wneud cwyn ac os nad ydych yn fodlon â’r canlyniad, mae modd o hyd i chi ddwyn achos cyfreithiol.

Cyfraniadau a Gynhyrchir gan Ddefnyddiwr

Nid yw creu, dosbarthu, trosglwyddo, arddangos yn gyhoeddus, neu berfformio eich Cyfraniadau, ynghyd â chyrchu, lawrlwytho neu gopïo eich Cyfraniadau, yn ymyrryd, ac ni fydd yn ymyrryd â hawliau perchnogol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i hawlfraint, patent, nod masnach, neu hawliau moesol unrhyw drydydd parti.

Chi yw creawdwr a pherchennog eich Cyfraniadau, neu mae gennych y trwyddedau, yr hawliau, y cydsyniadau, y rhyddhadau a’r caniatadau i ddefnyddio’r Rhaglen, ac i’n hawdurdodi ni, y Rhaglen, a defnyddwyr eraill y Rhaglen i ddefnyddio eich Cyfraniadau mewn unrhyw ffordd a ragwelir gan y Rhaglen a’r Telerau Defnyddio hyn.

Mae gennych gydsyniad ysgrifenedig, rhyddhad a/neu ganiatâd pob unigolyn y gellir ei adnabod yn eich Cyfraniadau i ddefnyddio enw neu debygrwydd pob unigolyn y gellir ei adnabod er mwyn gallu cynnwys a defnyddio eich Cyfraniadau mewn unrhyw ffordd a ragwelir gan y Rhaglen a’r Telerau Defnyddio hyn.

Nid yw eich Cyfraniadau’n anwir, yn anghywir nac yn gamarweiniol.

Nid yw eich Cyfraniadau’n hysbysebion, deunyddiau hyrwyddo, cynlluniau pyramid, llythyrau cadwyn, post sothach, post torfol, nac unrhyw fath arall o ddeisyfiad, digymell neu ddiawdurdod.

Nid yw eich Cyfraniadau yn anllad, yn dreisgar, yn aflonyddu, yn enllibus, yn gableddus, nac yn annymunol fel arall (fel y pennir gennym ni).

Nad yw eich Cyfraniadau yn gwawdio, dibrisio, dychryn na cham-drin neb.

Nid yw eich Cyfraniadau’n cael eu defnyddio i aflonyddu ar unrhyw unigolyn arall na’i ddychryn (o ystyried y telerau hynny o safbwynt cyfreithiol) ac i hyrwyddo trais yn erbyn unigolyn neu ddosbarth penodol o bobl.

Nid yw eich Cyfraniadau yn torri unrhyw gyfraith, rheoliad na rheol berthnasol.

Nid yw eich Cyfraniadau yn torri hawliau preifatrwydd neu gyhoeddusrwydd unrhyw drydydd parti.

Nid yw eich Cyfraniadau yn torri unrhyw gyfraith berthnasol sy’n ymwneud â phornograffi plant, neu sydd wedi’i bwriadu fel arall i ddiogelu iechyd neu les plant dan oed.

Nid yw eich Cyfraniadau’n cynnwys unrhyw sylwadau sarhaus yn ymwneud â hil, gwlad enedigol, rhywedd, dewisiadau rhywiol, neu anabledd corfforol.

Nid yw eich Cyfraniadau fel arall yn tresmasu ar, nac yn ymwneud â, deunydd sy’n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau Defnyddio hyn, nac unrhyw gyfraith neu reoliad perthnasol.

Bydd defnyddio’r Rhaglen mewn unrhyw ffordd sy’n torri’r uchod yn torri’r Telerau Defnyddio hyn ac, ymysg pethau eraill, gall arwain at derfynu neu atal eich hawliau i ddefnyddio’r Rhaglen.

Trwydded Cyfraniad

Rydych chi’n cytuno y gallwn ni gael gafael ar unrhyw wybodaeth bersonol a data rydych chi’n eu darparu, ynghyd â’u storio, eu prosesu a’u defnyddio yn unol â thelerau’r Polisi Preifatrwydd a’ch dewisiadau (gan gynnwys gosodiadau).

Drwy gyflwyno awgrymiadau neu adborth arall ynghylch y Rhaglen, rydych yn cytuno y gallwn ddefnyddio a rhannu adborth o’r fath at unrhyw ddiben heb wneud iawn amdano i Chi.

Nid ydym yn hawlio unrhyw berchnogaeth dros eich Cyfraniadau. Byddwch chi’n cadw perchnogaeth lawn o’ch holl Gyfraniadau ac unrhyw hawliau eiddo deallusol neu hawliau perchnogol eraill sy’n gysylltiedig â’ch Cyfraniadau. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddatganiadau neu sylwadau yn eich Cyfraniadau a ddarperir gennych Chi mewn unrhyw ran o’r Rhaglen. Rydych chi’n llwyr gyfrifol am eich Cyfraniadau i’r Rhaglen ac yn cytuno’n benodol i’n rhyddhau o unrhyw gyfrifoldeb ac i beidio â chymryd unrhyw gamau cyfreithiol yn ein herbyn mewn perthynas â’ch Cyfraniadau.

Sut Rydym yn eich Diogelu Rhag Cynnwys Anghyfreithlon 

Byddwn yn eich diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon drwy weithredu’n brydlon ar adroddiadau a chynnwys a welwn. Gyda’r Ap, mae gennym nodwedd ‘rhoi gwybod am broffil’ y gallwch ei defnyddio a gofynnir i chi gadarnhau a ydych yn credu bod y cynnwys yn torri’r Telerau hyn a/neu’n gynnwys anghyfreithlon. Efallai y byddwn yn cysylltu â’ch gweithle i roi gwybod i’r sefydliad bod adroddiad wedi dod i law bod cynnwys ei weithiwr yn torri’r rheolau. Os yw’r gweithle’n cytuno, bydd y cynnwys tramgwyddus yn cael ei ddileu drwy atal y cyfrif defnyddiwr hwnnw. Neu, os yw’r cynnwys ar unwaith ac yn amlwg yn sarhaus, byddwn yn tynnu’r proffil heb gysylltu â sefydliad y gweithle.

Rydym ni’n lleihau’r amser y mae cynnwys terfysgaeth yn ymddangos ar yr Ap drwy atal neu dynnu’r proffil tramgwyddus o’r Ap. Byddwn yn tynnu cynnwys terfysgaeth yn gyflym pan fyddwn yn cael gwybod amdano.

Byddwn yn lleihau’r amser y mae cynnwys cam-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant yn ymddangos ar yr Ap drwy atal neu dynnu’r proffil tramgwyddus o’r Ap. Byddwn yn tynnu cynnwys cam-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant yn gyflym pan fyddwn yn cael gwybod amdano.

Byddwn yn lleihau’r amser y mae cynnwys arall sy’n gyfystyr â throsedd yn ymddangos ar yr Ap drwy atal neu dynnu’r proffil tramgwyddus o’r Ap. Mae hyn yn berthnasol i gynnwys sy’n ymwneud â chynorthwyo hunanladdiad, bygythiadau i ladd, troseddau trefn gyhoeddus, aflonyddu, stelcio ac ofni trais neu ennyn trais, cyffuriau a sylweddau seicoweithredol, arfau tanio ac arfau eraill, helpu gyda mewnfudo anghyfreithlon, masnachu pobl, camfanteisio’n rhywiol, delweddau rhywiol, elw o drosedd, twyll, gwasanaethau ariannol, ymyrraeth dramor, lles anifeiliaid a throseddau sy’n ymwneud â chyflawni unrhyw un o’r troseddau hyn (a elwir yn droseddau cychwynnol). Byddwn yn tynnu cynnwys o’r fath yn gyflym pan fyddwn yn cael gwybod amdano.

Pa gynnwys ac ymddygiadau y dylech roi gwybod amdanynt

Gallwch gwyno neu roi gwybod am y cynnwys a’r ymddygiadau canlynol: 

  • Cynnwys sy’n anghyfreithlon yn eich barn chi.
  • Pan rydych chi’n meddwl nad ydym yn delio â chynnwys neu weithgarwch anghyfreithlon fel y dylem.
  • Pan rydych chi’n meddwl nad yw ein systemau a’n prosesau adrodd am gynnwys yn gadael i ddefnyddwyr roi gwybod yn hawdd am gynnwys sy’n anghyfreithlon yn eu barn nhw, a chynnwys maen nhw’n meddwl sy’n niweidiol i blant ac sy’n hygyrch i blant.
  • Pan rydych chi’n meddwl nad ydym wedi ystyried yn ddigonol pa mor bwysig yw diogelu hawl defnyddwyr i ryddid mynegiant neu breifatrwydd.
  • Pan fydd eich cynnwys wedi cael ei dynnu ar y sail ei fod yn anghyfreithlon.
  • Pan fyddwn wedi rhoi rhybudd i chi, eich atal, eich gwahardd neu gyfyngu arnoch mewn unrhyw ffordd o ganlyniad i’ch cynnwys sydd, yn ein barn ni, yn gynnwys anghyfreithlon.
  • Mae technoleg rydym ni’n ei defnyddio yn golygu bod eich cynnwys wedi cael ei dynnu, y cyfyngwyd mynediad iddo neu ei fod wedi’i ddadflaenoriaethu, ac rydych chi’n meddwl bod y dechnoleg wedi cael ei defnyddio mewn ffordd nad yw wedi’i nodi yn ein telerau gwasanaeth.

Sut i gwyno neu roi gwybod am gynnwys

Gallwch gwyno neu roi gwybod am gynnwys ar yr Ap neu drwy anfon e-bost at: legalservices.bangor.ac.uk, drwy anfon llythyr at: Prifysgol Bangor, Bangor, Ffordd y Coleg, Gwynedd, LL57 2DG, neu drwy ffonio +441248351151

Sut byddwn yn delio â’ch cwyn neu gynnwys y rhoddwyd gwybod amdano

Byddwn yn delio â’ch cwyn o dan ein trefn gwyno safonol sydd ar gael yma: https://www.bangor.ac.uk/governance-and-compliance/policy-register/documents/Bangor_University_Complaint_Procedure_2024_Version_1.1-CY.pdf

Y pwynt cyswllt cyntaf i drafod y gŵyn fydd Canolfan Bedwyr fel yr adran sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithrediad yr Ap. Os yw’n dal heb ei datrys, dylid cyflwyno’r gŵyn yn ysgrifenedig i Gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr a ddylai gydnabod y gŵyn o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr yn ysgrifennu atoch fel arfer o fewn 14 diwrnod gwaith i’ch cwyn ddod i law, gan amlinellu’r canfyddiadau a nodi unrhyw gamau a gymerwyd i ddatrys y mater os oes angen. Os ydych chi’n dal yn anfodlon â’r ymateb ar ôl i’r Cyfarwyddwr ei ystyried, gallwch ddewis gwneud cwyn ffurfiol. Dylid cyfeirio’r ohebiaeth gychwynnol at Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol: legalservices@bangor.ac.uk. Bydd y weithdrefn fel y’i nodir yn y Drefn Gwyno o dan adran 4(c). 

Eich hawliau i hawlio yn ein herbyn os byddwn yn cyfyngu ar fynediad at eich cynnwys

Os byddwn yn cyfyngu mewn ffordd sy’n torri’r telerau gwasanaeth hyn ar fynediad at unrhyw gynnwys rydych yn ei gynhyrchu neu’n ei lwytho i fyny i’n gwasanaeth neu’n ei rannu, mae gennych hawl i gyflwyno hawliad yn ein herbyn am dorri contract.

Eich hawliau i hawlio yn ein herbyn os byddwn yn atal neu’n gwahardd eich defnydd o’n gwasanaeth

Os byddwn yn eich atal neu’n eich gwahardd rhag defnyddio ein gwasanaeth mewn ffordd sy’n torri’r telerau gwasanaeth hyn, mae gennych hawl i ddwyn hawliad yn ein herbyn am dorri contract.

TREIALU AP ARFER: CYNYDDU’R DEFNYDD O’R GYMRAEG YN Y GWEITHLE

Ymchwilwyr:

  • Dr Lowri Angharad Hughes – Cyfarwyddwr ARFer, Pennaeth Polisi a Datblygu… @ Canolfan Bedwyr;
  • Dr Arwel Tomos Williams – Ymchwilydd ARFer… @ Canolfan Bedwyr;
  • Dr Shân Pritchard – Hwylusydd ARFer, Terminolegydd / Swyddog Technolegau Iaith… @ Canolfan Bedwyr.

ARFer:

Rydych wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil. Cyn ichi benderfynu cymryd rhan, mae’n bwysig eich bod yn deall diben yr ymchwil a beth y bydd gofyn i chi ei wneud. Os gwelwch yn dda, cymrwch eich amser i ddarllen y wybodaeth ganlynol yn ofalus ac, os mynnwch, ei thrafod â ffrindiau neu berthynas. Gofynnwch a oes unrhyw beth yn aneglur neu pe baech yn dymuno mwy o wybodaeth: mae cyfeiriad e-bost ymchwilydd ARFer ar ddiwedd y ddogfen hon.

Un her sylweddol i wireddu Thema 2 yn Strategaeth Cymraeg 2050 (Llywodraeth Cymru), h.y., cynyddu a ‘normaleiddio’r’ defnydd o’r Gymraeg erbyn 2050, ydy siaradwyr Cymraeg law yn llaw â dysgwyr Cymraeg ddim yn defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd. Mae hyn yn aml o ganlyniad i bobl yn sefydlu arferion ieithyddol, h.y., defnyddio Saesneg. Mae newid yr arferiad ieithyddol (i ddefnyddio Cymraeg) yn anodd. Mae ARFer yn darparu fframwaith sy’n galluogi’r shifft o Saesneg i Gymraeg.

Mae Prifysgol Bangor wedi datblygu a threialu pedair fersiwn Pecyn ARFer yn ddiweddar i helpu staff ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn y gwaith, boed ydynt yn gweithio wyneb yn wyneb, neu’n rhithiol. Ymyriad newid ymddygiad ar sail ymrwymiad ydy ARFer. Roedd pecyn ARFer yn gofyn i weithwyr o fewn gweithleoedd a oedd wedi cofrestru i gymryd rhan yn y cyfnod treialu i ymrwymo i ddilyn tasgau penodol yn y Gymraeg gyda’u cydweithwyr.

Eich rôl chi:

Rydyn ni yn y broses o drosi fframwaith pecyn ARFer i ap ar gyfer ffonau clyfar ac yn gofyn ichi chwarae rhan sylweddol: treialu ap ARFer a chyflwyno adborth cadarn yn ystod y profiad i’n helpu ni i ddatblygu a gwella’r ap.

Yn ystod cyfnod treialu’r ap, byddwn yn gofyn ichi gyflwyno adborth ar gyfer pob tasg yr ydych yn ymrwymo iddynt gyda’ch cydweithwyr drwy ateb dau gwestiwn Likert. Bydd cwestiwn ysgrifennu rhydd dewisol hefyd: pe byddwch yn penderfynu mynegi barn yn y maes dewisol hwn, byddwch yn onest a rhannwch cymaint o wybodaeth â phosib, os gwelwch yn dda. Mae’n bosib hefyd y byddwn yn cysylltu gyda chi i gasglu adborth mwy cyffredinol ynglŷn â pherfformiad a dyluniad yr ap. Teimlwch yn rhwydd i beidio ag ymateb i’r cais am adborth cyffredinol heb fod angen rheswm penodol.

Pe baech yn penderfynu cymryd rhan yn yr astudiaeth hon, byddwch yn gallu darllen y wybodaeth yma ar unrhyw amser o fewn yr ap drwy lywio i’r ddewislen Ynghylch yr Ap. Eich penderfyniad personol chi ydy cymryd rhan – mae hyn yn gwbl wirfoddol. Bydd yr holl ddata’n dilyn y drefn ddienw ac o bosib yn cael ei ddefnyddio mewn gwaith sydd am ei gyhoeddi. Fodd bynnag, mae’r hawl gennych chi i dynnu’n ôl ar unrhyw amser heb unrhyw fath o gosb, a heb reswm penodol. Yn ogystal, rydych yn rhwydd ofyn i’ch data i gael eu diystyru/dinistrio. I wneud hynny, cyfeiriwch nhw at ymchwilydd ARFer, Dr Arwel Williams, Canolfan Bedwyr: arwel.williams@bangor.ac.uk, os gwelwch yn dda.

Moeseg Ymchwil:

Mae’r astudiaeth hon wedi cael ei adolygu gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor, ac nid oes unrhyw risg o niwed ichi. Fodd bynnag, pe baech ag unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ymchwil, cysylltwch arwel.williams@bangor.ac.uk

Pe baech ag unrhyw gwynion ynglŷn â’r astudiaeth hon, cysylltwch â’r Uwch Swyddog Llywodraethu drwy e-bostio researchgovernance@bangor.ac.uk, os gwelwch yn dda.

Cyfeirnod y System Foeseg: 19112024-0911

Diolch yn fawr am eich diddordeb.