Gofalu Trwy’r Gymraeg

hybu’r Gymraeg mewn lleoliadau iechyd

Crëwyd yr ap yma ar gyfer Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn magu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o astudiaethau neu o fewn y gweithle.

Mae Gofalu Trwy’r Gymraeg yn llawn termau defnyddiol i’r sawl sy’n gweithio neu’n astudio iechyd a gofal cymdeithasol ac yn adnodd defnyddiol i ymarferwyr meddygol.

Mae gan bob term ffeil sain gysylltiedig wedi’i leisio gan y cyflwynydd Nia Parry – adnodd perffaith i unrhyw un sydd yn dymuno defnyddio mwy o Gymraeg neu sy’n dymuno gloywi eu geirfa.

Seliwyd yr ap ar lyfryn a grëwyd gan Angharad Jones, Uwch Ddarlithydd yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe.  Dosbarthwyd y llyfryn 40 tudalen ymysg myfyrwyr y coleg yn 2011 gyda’r bwriad o’u hannog i ymarfer eu Cymraeg er mwyn medru cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i’r cyhoedd.  Drwy droi’r llyfryn yn declyn dysgu rhyngweithiol crëwyd adnodd sydd ar gael i unrhyw un fel bo’r angen.  Yn dilyn buddsoddiad ychwanegol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mae’r ap bellach yn cefnogi dyfeisiadau symudol Apple ac Android.

Enillodd yr ap wobr Technoleg Gwybodaeth a’r Iaith Gymraeg yng Ngwobrau’r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yn 2014.

Platfformau

iOS
Android

GWASANAETHAU

BRANDIO
DYLUNIAD RHYNGWYNEB DEFNYDDIWR
DATBLYGU UNITY

LLAIS DROSODD