Skip to main content

Mae ap newydd wedi ei greu gan Galactig i gefnogi pobl sy’n astudio neu’n gweithio yn y maes chwaraeon i wella eu hyder wrth siarad Cymraeg.

 Mae’r ap, ‘Chwaraeon Trwy’r Gymraeg’, sy’n bartneriaeth rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Choleg Cambria, yn cefnogi dysgwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddyn nhw yn y dosbarth ac yn y gweithle, beth bynnag yw lefel eu sgiliau iaith ar hyn o bryd.

 Mae’r ap rhyngweithiol – y cyntaf o’i fath – yn cynnwys geirfa ac ymadroddion cyffredinol a themâu penodol i’w defnyddio gan ddysgwyr mewn colegau addysg bellach ac yn y pendraw gan weithwyr chwaraeon proffesiynol.

Bydd yr ap yn cael ei lansio mewn digwyddiad duathlon Colegau Cymru ar ddydd Mercher 10 Mai ble bydd dros 400 o bobl ifanc o golegau addysg bellach a staff o saith coleg ar draws Cymru yn cymryd rhan yn y digwyddiad ym Mharc Gwledig Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin. Bydd siaradwyr ysbrydoledig gan gynnwys y cyn-chwaraewr rygbi i di^m y Gweilch, Ifan Phillips, a gollodd ei goes mewn damwain yn 2021, yn lansio’r ap ac yn annerch y dorf cyn y ras.

Fel darlithydd, rwy’n cyfeirio myfyrwyr tuag at yr ap er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y pwnc Chwaraeon, yn y dosbarth ac ar leoliad. Mae'r ap yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y rhai sy’n rhugl yn y Gymraeg ond hefyd i’r rhai sydd yn awyddus i ail afael neu ddatblygu eu sgiliau iaithThe latest VR technology is exceptional, and I am of the view that it is a very effective means by which to educate the next generation of farmers to recognise the possible dangers on the farm and how to avoid them.

Jonathan KerryDarlithydd Chwaraeon yng Ngholeg Cambria